Amdanom Ni

Hanes Capel Coffa

Ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg bu Annibynwyr Cyffordd Llandudno yn addoli yng Nghapel Seion Conwy tan y cychwynwyd gwasanaethau yn y Ferry Hotel i ddechrau ac yna yn y Capel Bach (Victoria Drive) a adeiladwyd yn 1890. Symudasant oddi yno i’r Capel Coffa yn 1903.

Yn 1902, gosodwyd sylfeini “Capel Coffadwriaethol Dr. Arthur Jones”yng Nghyffordd Llandudno ac agorwyd y Capel ym Mehefin 1903.  Costiodd y Capel a ddaliai ddau gant a hanner o bobl, a’r Ysgoldy, £1,540, a chliriwyd yr holl ddyled erbyn 1916. (o “Gŵyl a Gwaith”-canmlwydd o hanes Capel Coffadwriaethol  Dr. Arthur Jones Cyffordd Llandudno1895-1995 gan y diweddar Barchedig Gwyn Jones).

Gweinidogion:

1. Y Parchedig Thomas Davies Jones (1895-1901)

2. Y Parchedig John Luther Thomas (1903-1921)

3. Y Parchedig Samuel Bowen (1923-1930)

4. Y Parchedig Thomas Edward Roberts (1932-1947)

5. Y Parchedig Griffith John Miles (1949-1976)

6. Y Parchedig Gwyn Jones (1977-1986)

7. Y Parchedig John G.E. Watkin (1987-2000)

8. Y Parchedig Blodwen Jones (2000-2007)

9. Y Parchedig W. Gareth Edwards (2010-